We provide Ap Cwtsh online (apkid: co.moilin.apcwtsh) in order to run this application in our online Android emulator.


Description:

Run this app named Ap Cwtsh using MyAndroid.
You can do it using our Android online emulator.

Cyflwyno dulliau syn hybu iechyd a lles yw Ap Cwtsh, megis myfyrdodau cynhenid Cymreig.
Mae Ap Cwtsh yn cynnwys sesiynau myfyrio newydd sbon syn adlewyrchu ein hiaith, ein hanes an diwylliant.
Rhoddwyd enw Cwtsh ar yr ap gan ei fod yn air Cymraeg nad oes modd ei gyfieithun iawn ir Saesneg, ac maen cyfleu bwriad a naws yr ap.
Mae gwefan Prifysgol Cymrun dehonglir gair cwtsh fel hyn;
Ask a Welsh person what a cwtch is and often theyll give you a fond smile because a cwtch is evocative it has the magical quality of transporting someone back to the safety of their childhood.
This corresponds with the words other meaning, which is a place to safely store things if you give someone a cwtch, you're figuratively giving them a safe place.
Mae Cwtsh yn hafan i Gymry droi tuag ato er mwyn cychwyn ar y daith o gysylltun ddyfnach gyda nhw eu hunain drwy dechnegau myfyrdod syn adlewyrchu cynhesrwydd a natur groesawgar y Cymry ac i chi deimlo fel eich bod yn rhoi cwtsh ich hun wrth ei ddefnyddio.
Mewn byd sydd yn llawn ansicrwydd, bydd cynnwys Cwtsh yn arwain pobl i ddod i adnabod eu hunain ar lefel ddyfnach mewn modd goddefgar a thyner.
Rydym wedi dechraun syml gyda 4 adran fydd yn sbarduno diddordeb ac awydd pobl am fwy o gynnwys tebyg.
O fewn yr ap mae dwy adran;
1.
Cyflwyniad i Ap Cwtsh syn cynnwys 4 fideo rhagarweiniol ich paratoi chi i ddeall mwy am fyfyrio.
2.
Y Myfyrdodau syn cynnwys 3 sesiwn myfyrio dyddiol, 1 ir bore, 1 yn ystod y dydd ac 1 i helpu chi i gysgu
Oriau Man y Bore - Myfyrdod byr a syml (tua 8 munud) i osod tn eich diwrnod.
Dywedir mair adeg gorau or dydd ar gyfer myfyrio ywn syth bin ar l deffro yn y bore.
Yn y munudau prin yma, mae na ennyd o dawelwch a llonyddwch iw ganfod cyn ir meddwl ddechrau rhedeg ar garlam.
Mwyaf y brys, mwyaf y rhwystr - Sesiwn 5 munud i ddod chi yn l atoch chi eich hun yn ystod diwrnod prysur drwy gysylltu gydar corff ar anadl a dechrau arafur meddwl.
Cael Wil iw Wely - Mae cwsg, ac yn benodol diffyg cwsg, yn broblem fawr i nifer o bobl heddiw.
Felly, dyma sesiwn ymlacio 17 munud o hyd dan arweiniad i ymlacior corff ar meddwl a suor gwrandwr i gysgu.
Gorau adnabod, d'adnabod dy hun - Wrth i chi ddod i arfer gyda myfyrio, efallai y byddwch yn dymuno dyfnhau eich ymarfer drwy arbrofi gydag arddulliau myfyrio eraill, a hefyd eistedd heb gyfarwyddyd ac am gyfnodau hirach o amser.
Maer amserydd yman rhoi rhwydd hynt i chi ddatblygu eich ymarfer dros amser.
Noddwyd yr ap gan Lywodraeth Cymru
Cefnogwyd gan Fenter Iaith Abertawe
Awdur yr ap yw Laura Karadog laurakaradog.cymru
Cerddoriaeth gan Delyth ac Angharad Jenkins
Datblygwyd gan gwmni Moilin

MyAndroid is not a downloader online for Ap Cwtsh. It only allows to test online Ap Cwtsh with apkid co.moilin.apcwtsh. MyAndroid provides the official Google Play Store to run Ap Cwtsh online.

Page navigation:

©2025. MyAndroid. All Rights Reserved.

By OffiDocs Group OU – Registry code: 1609791 -VAT number: EE102345621.